Mae achosion o ffliw adar wedi bod ar fferm bridio hwyaid yn Swydd Efrog.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) wedi cadarnhau bod o leiaf un achos o’r firws wedi cael ei gofnodi ar y fferm yn ardal Driffield, yn nwyrain Swydd Efrog.

Ond mae DEFRA wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd yn “isel iawn”, er eu bod nhw wedi penderfynu difa’r holl adar ar y fferm.

Mae’n debyg mai straen H5 o’r ffliw adar mae DEFRA yn ymchwilio iddo ar hyn o bryd, nid y straen H5N1 sydd wedi achosi pryder difrifol yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran DEFRA: “Rydym yn cymryd camau ar unwaith – sy’n cynnwys cyflwyno parth cyfyngu o 10km o amgylch yr ardal a difa’r adar ar y fferm – er mwyn atal unrhyw ledaeniad posibl o’r haint.”

Yn y cyfamser, mae awdurdodau yn yr Iseldiroedd wedi gwahardd cludo dofednod ac wyau trwy gydol y wlad ar ôl i achos o ffliw adar gael ei gadarnhau ar fferm cywion ieir yn Hekendorp.

Bydd y 150,000 o ieir sydd ar y fferm, tua 40 milltir i’r de o Amsterdam, yn cael eu difa.