Peter Kassig
Mae arweinwyr byd wedi condemnio llofruddiaeth y gwystl o’r Unol Daleithiau Peter Kassig, a gafodd ei ddangos mewn fideo oedd wedi’i rhyddhau gan eithafwyr Y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Cafodd Peter Kassig ei gipio gan eithafwyr IS yn Syria ym mis Hydref y llynedd tra’n gwneud gwaith dyngarol yn y wlad.
Cafodd fideo’n ei ddangos yn cael ei ladd gan eithafwr IS gydag acen Lundeinig ei rhyddhau ar y we. Credir mai Jihadi John yw’r dyn yn y fideo, sydd hefyd yn ôl pob tebyg, yn gyfrifol am lofruddio pedwar gwystl arall.
Ac mae’n debyg bod dyn arall, Nasser Muthana o Gaerdydd, hefyd ymhlith y rhai fu’n rhan o’r llofruddiaethau.
Mae IS yn honni bod y fideo hefyd yn dangos grŵp o 10 o beilotiaid o Syria yn cael eu llofruddio gan eithafwyr.
‘Gweithred fileinig’
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi disgrifio llofruddiaeth Peter Kassig fel “gweithred fileinig” tra bod David Cameron wedi condemnio IS gan eu disgrifio fel “sefydliad pwdr”.
Dywed rhieni Peter Kassig bod eu mab wedi marw “o ganlyniad i’w gariad tuag at bobl Syria.”
Roedd Peter Kassig wedi troi at grefydd Islam ar ol cael ei gipio gan IS gan newid ei enw i Abdul-Rahman.
Jihadi John ‘wedi’i anafu’
Cyn i’r fideo gael ei rhyddhau dywedodd David Cameron ei fod am weld Jihadi John yn mynd o flaen ei well yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cael ei anafu mewn ymosodiad o’r awyr yn erbyn IS yn Irac.
Credir mai ef sy’n gyfrifol am ddienyddio dau wystl o Brydain, David Haines ac Alan Henning a dau wystl o’r Unol Daleithiau, James Foley a Steven Sotloff.