Elfyn Evans o Ddolgellau
Mae gyrrwr rali o Gymru wedi llwyddo i orffen yn bumed yn Rali GB Cymru, wrth i’r cymal ola’ gael ei gynnal yn Llandudno heddiw.

Ac yntau wedi bod yn 7fed ac yn 6ed yn ystod tridiau o rasio ei gar rali trwy goedwigoedd gogledd a chanolbarth Cymru yr wythnos hon, mae Elfyn Evans wedi llwyddo i wneud yn well nag yr oedd ef ei hun wedi’i obeithio.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe fu ei dad – y cyn-gyrrwr rali, Gwyndaf Evans – yn son ar y cyfryngau am bwysigrwydd gorffen yn yr 8 uchaf yr wythnos hon, a hynny er mwyn gallu anelu at wneud argraff go iawn ar y byd rali yn 2015.

Ond fe ddaeth Elfyn yn bumed yn y rali a enillwyd gan bencampwr y byd, Sébastien Ogier.