Mae dau ddyn dorrodd i mewn i dy ym Mlaenau Ffestiniog, gan adael y preswyliwr yngorwedd mewn pwll o waed, wedi cael eu carcharu.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Carl Brennan, 30 oed, yn ei gartre’ yn Stryd Cromwell, Blaenau Ffestiniog, ym mis Hydref.
Mae Robert Williams, 29, of Dolwyddelan, wedi’i garcharu am 44 mis, ac mae Craig Jones, 28, o Flaenau Ffestiniog, wedi’i ddedfrydu i 42 mis dan glo. Roedd y ddau gefnder wedi pledio’n euog i fwrgleriaeth.
Fe glywodd y llys gan yr erlyniad fod Robert Williams wedi taro’r dioddefwr yn ei ben gyda photel gwrw. Yna, fe afaelodd mewn hetar smwddio a’i ddefnyddio i daro Mr Brennon yn ei ben a’i wyneb.
Fe gafodd Carl Brennan ei gludo i’r ysbyty yn diodde’ o anafiadau i’w benelin, i’w lygaid a briwiau eraill.