Mae undeb Unison wedi beirniadu cynlluniau Cyngor Caerdydd am beidio ag amddiffyn gweithwyr fel rhan o doriadau i gyllideb y cyngor.

Yn ôl yr undeb, fe fydd hyn yn golygu bod Cyngor Caerdydd yn hawlio £5.7m oddi ar ei gweithwyr – swm sydd yn “ddinistriol”.

Maen nhw hefyd yn gandryll bod disgwyl y bydd y ‘Pecyn Gweithlu’ a sefydlwyd llynedd yn parhau eleni hefyd.

Ymgynghoriad

Heddiw fe fydd Cyngor Caerdydd yn dechrau ymgynghoriad i’w cynlluniau ar gyfer y gyllideb.

Ond mae Unison yn gandryll fod y Pecyn Gweithlu sydd wedi cael ei osod ar staff yn golygu bod eu horiau gwaith wedi’i leihau o 37 i 36 awr yr wythnos.

Dim ond mesur dros dro oedd hyn i fod pan gafodd ei gyflwyno llynedd, meddai’r undeb, ond mawr mae disgwyl i’r telerau aros.

“Mae Unison yn ei chael hi’n anodd credu unrhyw beth y maen nhw’n ei wneud ar ôl yr addewidion camarweiniol a roddon nhw i’r gweithwyr llynedd,” meddai Steve Belcher, llefarydd ar ran yr undeb.

“Tra bod y cyngor yn bwriadu parhau â’r awr goll ym mis Ebrill 2015, maen nhw hefyd eisiau cymryd £5.7m pellach oddi wrth y gweithlu wrth leihau eu telerau hyd yn oed yn bellach.”

Beio Llundain – a Llafur Caerdydd

Wrth feirniadu’r toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol oddi wrth San Steffan, dywedodd llefarydd Unison fod yn rhaid i lywodraeth Lafur Cyngor Caerdydd hefyd ysgwyddo rhywfaint o fai.

“Rydyn ni’n deall mai atgasedd San Steffan tuag at y sector gyhoeddus sydd ar fai am yr arian tila mae awdurdodau lleol yn ei dderbyn,” meddai Steve Belcher.

“Mae’r glymblaid Dorïaidd a Democratiaid Rhyddfrydol eisiau dinistrio’r holl wasanaethau y dylai’r cyhoedd allu disgwyl oddi wrth eu cynghorau lleol.

“Ond wedi dweud hynny, llywodraeth Lafur sydd yn parhau unwaith eto i gymryd arian oddi ar eu staff eu hunain.”