Cig oen
Mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans wedi croesawu buddsoddiad gwerth 4.1 miliwn Ewro i hybu’r diwydiant cig oen ac eidion.
Bydd y buddsoddiad yn cynnig cymorth i werthu cigoedd Cymru ar draws Ewrop gyfan.
Wrth annerch cynhadledd flynyddol Hybu Cig Cymru, dywedodd Rebecca Evans fod cais y corff i Gomisiwn Ewrop am nawdd fel rhan o’r rhaglen hybu cynnyrch amaethyddol wedi llwyddo.
Bydd yr arian ar gael dros gyfnod o dair blynedd i hybu cig oen ac eidion yn Yr Almaen a’r Eidal, a chig oen yn Sweden a Denmarc.
Dywedodd Rebecca Evans: “Rwy wrth fy modd fod Hybu Cig Cymru wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i gael nawdd ar gyfer y rhaglen hybu newydd hon.
“Mae Hybu Cig Cymru’n gweithio’n galed i gael mynediad i farchnadoedd newydd felly mae’r arian ychwanegol hwn i’w groesawu’n fawr a gobeithio y bydd yn helpu i hybu defnydd a gwerthiant.”
Derbyniodd economi Cymru hwb o £300 miliwn trwy werthu bwyd a diod dramor y llynedd.
Ychwanegodd Rebecca Evans: “Mae llwyddiant gwerthu bwyd a diod dramor yn dystiolaeth bellach o’r parch sydd gan brynwyr ar draws y byd i’n sector amaeth a bwyd ac yn enwedig ein cig eidion a chig oen.
“Byddwn yn parhau i ddefnyddio’n dylanwad yng Nghymru, ledled y DU a’r byd i gael mynediad i farchnadoedd allforio a photensial am fuddsoddiad dramor.”