Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad ac ymosodiad ar ddynes 25 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Digwyddodd y lladrad a’r ymosodiad ddoe wrth i’r ddynes fynd â’i chi am dro yn ardal Litchard i gyfeiriad Wildmill am 6.30yh.

Mynnodd dau ddyn ei bod hi’n rhoi dwy fodrwy iddyn nhw.

Pan fynnon nhw ei bod hi’n rhoi ffôn symudol iddyn nhw, gwrthododd hi ac fe wnaethon nhw ei tharo hi i’r llawr.

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty am driniaeth i’w phen yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu mai dwy fodrwy aur gwyn a gafodd eu dwyn.

Dylai unrhyw un a welodd yr ymosodiad, neu sydd wedi cael cynnig gemwaith o dan amgylchiadau amheus gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.