Y prom yn Aberystwyth
Yfory, fe fydd trigolion Aberystwyth yn cael gwybod os ydyn nhw’n byw yn nhref orau 2015 yn dilyn seremoni fawreddog yn Llundain.

Yr Academy of Urbanism, sefydliad sy’n cydnabod sut mae trefi wedi datblygu eu hamgylchedd a’u heconomi, sy’n cynnal y seremoni wobrwyo ac Aberystwyth yw’r unig dref o Gymru i gyrraedd y rhestr fer.

Bydd y dref lan mor yng Ngheredigion yn cystadlu yn erbyn Beverley, Swydd Efrog a Bury, Swydd Gaerhirfryn am y teitl Tref Orau 2015.

Cafodd Aberystwyth ei henwebu ar ôl i arbenigwyr ymweld â’r dref ym mis Awst.

Mae’r seremoni yn dathlu dinasoedd, trefi, strydoedd a llefydd sydd wedi dangos agweddau arloesol ac arbennig a bydd cynrychiolwyr o ledled Ewrop yn ymgasglu ar gyfer y seremoni yn ardal Covent Garden amser cinio fory.

Dyma fanylion am weddill y gwobrau.