Mae’r Aelod Cynulliad Rhyddfrydol Peter Black wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o dai gwag yn cael eu troi’n dai fforddiadwy.

Dangosodd ymchwil newydd ddoe fod 2,178 o dai gwag wedi cael eu hadnewyddu i fod yn dai fforddiadwy, ond dywed Peter Black fod mwy o dai gwag yng Nghymru erbyn hyn nag yr oedd pan ddechreuodd y cynllun benthyciadau.

Mewn datganiad, dywedodd Peter Black: “Rwy’n falch bod cynnydd wedi cael ei wneud, yn rhannol oherwydd cytundeb cyllideb y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2012 i roi mwy o arian i’r cynllun benthyciadau ‘Troi Tai’n Gartrefi’.

“Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gynnydd oherwydd gweithredoedd cynghorau unigol yn hytrach na Llywodraeth Cymru ac mae’r gwaith yn parhau’n bytiog ledled Cymru.

“Mae gwir angen Strategaeth Taoi Gwag Genedlaethol er mwyn tynnu’r cyfan ynghyd, gwella arfer da a sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau bosib.”