Mae Cyngor Sir Benfro wedi cyhoeddi rhybudd oren am wyntoedd o hyd at 75 milltir yr awr ar draws y sir.

Mae gwyntoedd 47mya yn cael eu mesur ar Bont Cleddau ar hyn o bryd, ac fe fydd y bont yn cau i gerbydau os yw’r gwynt yn cyrraedd 55mya.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro ei bod yn bosib y bydd adeiladau yn cael eu difrodi.

Yn ogystal, mae adroddiadau o lifogydd ar Ffordd Stranraer, Doc Penfro; Ffordd Narberth, Dinbych y Pysgod; ac ar y ffordd rhwng Neyland a Waterston.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am lifogydd yn ne Penfro.

Disgwylir rhagor o wyntoedd cryfion a galw trwm dros nos hefyd.