Maes awyr Penarlâg, Sir y Fflint
Mae adroddiad i ddamwain awyren fechan ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint, a laddodd y peilot a’i bartner, wedi dod i’r casgliad nad oedd digon o danwydd ar fwrdd yr awyren i gwblhau’r daith.

Bu farw’r peilot Gary Vickers, 58, a’i bartner Kaye Clarke, 42, ar ôl i’r awyren Cessna daro’r ddaear ym maes awyr Penarlâg ym mis Tachwedd 2013.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn agos i gwmni cynhyrchu awyrennau Airbus UK ym Mrychdyn.

Yn ôl adroddiad gan yr Adran Ymchwiliadau Damweiniau Awyr (AAIB) roedd yr awyren wedi colli pŵer oherwydd diffyg tanwydd yn un o’r prif danciau.

Dywed yr adroddiad bod Gary Vickers wedi marw yn y fan a’r lle. Cafodd Kaye Clarke ei hachub o’r awyren a’i chludo i ysbyty yng Nghaer ond bu farw’n fuan wedyn. Roedd y ddau yn dod o ardal Caer.