Fe fydd dros 100,000 o gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu biliau dwr yn elwa o gynllun newydd gan Dŵr Cymru, yn ôl y cwmni.

Bydd cynllun ‘HelpU’ yn cael ei anelu at bobol sy’n gwario mwy na 5% o’u hincwm ar eu biliau dŵr ac yn cynnig arbedion blynyddol o rhwng £50 a £250 neu hyd at 55% ar y bil domestig cyfartalog.

Mae Dŵr Cymru yn amcangyfrif bod tua 160,000 o gwsmeriaid yn cael trafferth talu eu biliau dŵr os yw’n fwy na 5% o incwm yr aelwyd.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Dŵr Cymru gyhoeddi eu canlyniadau canol blwyddyn, sy’n dangos elw o £43 miliwn a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth.

‘Arwain y ffordd’

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: “Am fod ein holl elw’n mynd i’r cwsmeriaid, gallwn gyflawni gwerth go iawn trwy gyflymu’r buddsoddiad, cadw’r biliau’n isel a thrwy helpu’r bobol hynny sy’n ei chael hi’n wirioneddol anodd talu eu biliau dŵr.

“Fel cwmni sydd mewn perchnogaeth ar ran ein cwsmeriaid, rydyn ni’n falch o fod yn arwain y ffordd trwy lansio tariff cymdeithasol newydd a fydd yn helpu dros 100,000 o aelwydydd ar yr incwm isaf fel eu bod nhw’n gallu talu eu biliau dŵr, a hynny am y tro cyntaf erioed.

“Bydd ein holl gwsmeriaid eraill ar eu hennill hefyd am y bydd hyn yn helpu i gadw’r costau cyffredinol yn isel a chadw’r cynnydd ym mhris ein biliau domestig yn is na chwyddiant am ddegawd hyd at 2020.”

Croesawu

Mae Diane McCrea, Cadeirydd Pwyllgor Cymru’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, wedi croesawu’r cynllun newydd: “Rydyn ni’n disgwyl i gwmnïau dŵr wneud popeth yn eu gallu i gynorthwyo’r aelwydydd incwm isel di-ri yng Nghymru sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau dŵr.

“Rydyn ni’n croesawu ymdrechion Dŵr Cymru i wella ei gymorth ar gyfer yr aelwydydd incwm isel trwy gyflwyno tariff cymdeithasol newydd.”

Ar y cyfan, mae’r cwmni yn darparu gwasanaethau dwr i 1.4 miliwn o gwsmeriaid ar draws rhan helaeth o Gymru, Glannau Dyfrdwy a Sir Henffordd.