Ed Miliband
Fe fydd Ed Miliband yn ceisio rhoi hwb i’w ddelwedd gyhoeddus heddiw gan fynnu ei fod yn “gryfach” ar ôl “wythnos anodd” yn dilyn beirniadaeth o’i arweinyddiaeth a chanlyniadau gwael mewn arolygon barn.
Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur geisio apelio at bleidleiswyr mewn araith heddiw yn dilyn gwrthdaro o fewn ei blaid sydd wedi gweld ei phoblogrwydd yn gostwng i’w lefel isaf erioed.
Fe gyfaddefodd Ed Miliband bod yn rhaid iddo roi sylw i bryderon nad yw’n gymwys i fod yn brif weinidog ond mae’n mynnu bod ganddo gefnogaeth “mwyafrif helaeth” aelodau’r Blaid Lafur.
“Mae hi wedi bod yn wythnos anodd,” meddai wrth y BBC, “ond mae pobl eisiau prif weinidog, eisiau arweinydd y Blaid Lafur, sy’n gallu ymdopi gyda chyfnodau anodd a brwydro drostyn nhw, a dyna pwy ydw i.”
Gyda dim ond chwe mis i fynd tan yr etholiad cyffredinol mae poblogrwydd Ed Miliband wedi gostwng i -44% – credir mai dyma’r sgôr waethaf i arweinydd plaid ers i gofnodion ddechrau yn y 1970au.
Mae e bellach yn fwy amhoblogaidd nag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg sydd wedi cael sgôr o -36%, tra bod David Cameron ar -15% a Nigel Farage ar -6%.