Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau a allai helpu 400,000 o gartrefi nad ydyn nhw o fewn cyrraedd y rhwydwaith nwy i leihau eu costau tanwydd.

Mae Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd wedi lansio gwefan fel bod modd i deuluoedd gofrestru eu dymuniad i fynd ar nwy’r prifion.

Wrth lansio’r cynlluniau, mae Llyr Gruffydd hefyd wedi galw ar yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey i ehangu dyletswyddau’r rheoleiddiwr Ofgem fel eu bod nhw hefyd yn gyfrifol am bobol nad ydyn nhw ar y grid nwy’r prifion.

Yn ôl y drefn bresennol, gallai cymdogion fod yn talu prisiau gwahanol am nwy gan yr un cyflenwyr yn dibynnu a ydyn nhw o fewn cyrraedd y rhwydwaith ai peidio.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys opsiwn i gwsmeriaid nad ydyn nhw ar y grid i brynu nwy crynswth oddi-ar-y-grid.

‘Ardaloedd gwledig yn cael eu taro’

Mewn datganiad, dywedodd Llyr Gruffydd: “Wrth i oerni’r gaeaf nesáu, mae pobl yn gorfod troi’r gwres ymlaen.

“I gannoedd o filoedd o ddefnyddwyr Cymru, mae hynny’n golygu talu mwy nag y dylent am wres ar adeg pan fo cyflogau neu fudd-daliadau yn cael eu torri neu eu rhewi.

“Mae llawer o gyflenwyr ynni heb eu rheoleiddio, ac mae cwsmeriaid yn wynebu biliau tanwydd cynyddol am nad oes fawr o ddewis, yn enwedig y tu allan i’r trefi a’r dinasoedd.

“Mae ardaloedd gwledig yn cael eu taro yn anghymesur gan y gost ychwanegol hon.

“Gallai llawer o aelwydydd arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn petaent wedi eu cysylltu i nwy’r prifion.

‘Rhaid gweithredu yn gynt’

Ychwanegodd Llyr Gruffydd: “Rydym eisiau i Lywodraeth Cymru gyflymu eu hymrwymiad truenus o araf i ddarparu nwy’r prifion i aelwydydd – ar y raddfa yma, fe gymer rhyw 100 mlynedd i gysylltu pawb o fewn 1km i’r grid.

“All pobl ddim fforddio eu biliau gwres yn awr – rhaid gweithredu yn gynt.

“Rwy’n gofyn i bobl sydd eisiau nwy’r prifion i ddod ymlaen ac ymuno â’n hymgyrch ar www.offgridcymru.org fel y gallwn bwyso am weithredu ar eu rhan.

“I’r rhai na all gael nwy’r prifion, am ba bynnag reswm, rydym eisiau annog clybiau prynu cymunedol i gael gostyngiadau sylweddol i bobl ar olew a mathau eraill o danwydd.

“Byddai rheoleiddiwr ynni Cymreig gwirioneddol hefyd yn gwneud yn siŵr na fyddai neb yn cael ei dwyllo eto.”