Mae Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Mark Isherwood wedi galw ar gwmni trenau Arriva Cymru i barhau â dau wasanaeth allweddol yn ardal Wrecsam.
Mae dyfodol y gwasanaethau rhwng Amwythig a Wrecsam am 7 o’r gloch y bore a’r gwasanaeth am 7.47yb rhwng Wrecsam a Birmingham yn y fantol.
Mae’r cynghorydd lleol, David Bithel, sy’n gyfrifol am yr amgylchedd ac amddiffyn y cyhoedd, hefyd wedi anfon llythyr at y cwmni yn gwrthwynebu’r cynlluniau.
‘Cywilyddus’
Mewn datganiad, dywedodd Mark Isherwood: “Rwy’n rhannu’r pryderon a gafodd eu mynegi gan y cynghorydd Bithell ac yn yr un modd, yn annog Arriva i ail-ystyried eu cynlluniau.”
Ychwanegodd nad oedd yr awgrym y gallai teithwyr ddefnyddio gwasanaeth cynharach o Gaerdydd ac aros i newid yn Amwythig yn dderbyniol.
“Mae nifer o deithwyr yn dibynnu ar y gwasanaethau cynnar yn y bore i gyrraedd y gwaith cyn 9 o’r gloch ac mae’n gywilyddus nad yw eu hanghenion wedi cael eu hystyried wrth lunio’r amserlen newydd.
“Gobeithio y bydd Arriva yn rhoi ystyriaeth i bryderon defnyddwyr rheilffordd Wrecsam ac yn ail-ystyried.”