Mae arolwg barn newydd gan YouGov yn awgrymu bod y mwyafrif o Gymry a gafodd eu holi o blaid derbyn yr un pwerau ag sydd gan Yr Alban.

Cafodd yr arolwg ei gynnal ar ran Yes Cymru, grŵp trawsbleidiol ac amhleidiol newydd sydd o blaid annibyniaeth i Gymru.

O blith y rhai oedd wedi mynegi eu barn, dywedodd 63% y “dylai’r pwerau sy’n cael eu datganoli fod yr un pwerau â’r Alban”.

Ymhlith cefnogwyr Plaid Cymru yr oedd y gefnogaeth fwyaf i’r pwerau (85%), ond roedd cryn gefnogaeth i’r syniad o du cefnogwyr y Blaid Lafur (70%) ac UKIP (55%) hefyd.

Pobol ifanc oedd fwyaf brwd o blaid yr awgrym, gyda 73% o bobol rhwng 18 a 24 oed yn dweud eu bod o blaid cael yr un pwerau â’r Alban.

‘Cydraddoldeb’

Mewn datganiad, dywedodd Iestyn ap Rhobert o grŵp Yes Cymru: “Mae’r arolwg yma yn newyddion gwych.

“Mae’n dangos bod pobol Cymru yn gryf ac yn gyson eu cefnogaeth i gydraddoldeb gyda’r Alban, gyda chefnogaeth gref gan sawl rhan o’r gymdeithas.

“Mae dyletswydd ar y pleidiau i gyd i gadw lan gyda’r newid mae’r etholwyr yn dymuno ei weld.

“Yn draddodiadol, rydyn ni yng Nghymru wedi bod yn geidwadol o ran anelu i fod yn genedl-wladwriaeth lawn yn Ewrop.

“Mae’r arolwg yma yn dangos bod pobl Cymru am weld mwy o benderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, ac maen nhw eisiau cael eu trin yn gydradd gyda’n ffrindiau yn yr Alban.

“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru, a phob plaid yn y Cynulliad, i sicrhau nad yw Cymru yn cael ei gadael ar ôl, ac i fynnu bod Cymru yn cael o leiaf yr un pwerau â’r hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban.”

‘Haeddu cydraddoldeb’

Wrth ymateb i’r arolwg, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod Cymru’n haeddu bod yn gydradd â’r Alban o ran pwerau.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae pobol Cymru’n haeddu dim llai na chael eu gosod yn gydradd â’r Alban.

“Mae’r arolwg hwn yn gyson o’i gymharu â rhai eraill sy’n dangos bod y mwyafrif yng Nghymru o’r farn y dylid gwneud mwy o benderfyniadau ar y materion sy’n ein heffeithio ni yma yng Nghymru.

“Mae’r addewid bondigrybwyll a wnaed i bobol yr Alban gan arweinwyr tair plaid Prydain yn ystod eu hymgyrch refferendwm yn siomi o ran disgwyliadau, gan ddangos unwaith eto fod sefydliad San Steffan ar ei hôl hi o ran barn y cyhoedd.”

“Mae pobol Cymru am weld cynnydd. Mae cydraddoldeb â’r Alban yn orfodol.”