Vaughan Gething
Cafodd ymgynghoriad ar gynllun newydd i leihau nifer y bobl sy’n marw o glefyd yr iau bob blwyddyn yng Nghymru ei lansio heddiw.
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae marwolaethau yng Nghymru o glefyd cronig yr iau wedi mwy na dyblu.
Mae gordewdra, camddefnyddio alcohol a hepatitis feirol sy’n cael ei gludo yn y gwaed yn cyfrannu at ddatblygiad clefyd yr iau yng Nghymru.
Wrth lansio’r cynllun, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething: “Fel yn achos nifer o gyflyrau iechyd eraill, mae’r ffordd yr ydym yn byw yn effeithio ar ein risg o ddatblygu clefyd yr iau ai peidio. Yfed gormod o alcohol yw un o brif achosion clefyd yr iau yng Nghymru o hyd.
Mae gan y Llywodraeth gamau i daclo’r broblem, yn ôl Vaughan Gething: “Fel yr amlinellwyd yn y Papur Gwyn diweddar ar Iechyd Cyhoeddus, rydym yn edrych ar ddeddfwriaeth i gyfyngu ar y gorddefnydd o alcohol drwy gyflwyno isafswm pris o 50c yr uned ar gyfer alcohol.
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb yr effeithiwyd i fynegi eu barn, gyda’r cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi fis Ebrill nesaf.”