Rhun ap Iorwerth
Mae Plaid Cymru heddiw wedi amlinellu galwadau am dryloywder a chystadleuaeth mewn bancio yn yr unfed ganrif ar hugain.
Meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth, y byddai rhagor o gystadleuaeth yn gwasanaethu anghenion pobl Cymru yn well.
Mae hefyd wedi galw am ragor o fanciau mewn ardaloedd gwledig fel bod pobl Cymru yn gallu dewis banc yn well.
Wrth gyfeirio at ymchwiliad Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i gyfrifon banc personol a’r sector bancio manwerthu, rhybuddiodd Rhun ap Iorwerth bod cylch gwaith cul yr ymchwiliad yn golygu na fyddai anghenion defnyddwyr yng Nghymru dan ystyriaeth.
Dywedodd hefyd y byddai mwy o opsiynau a rhagor o wasanaethau yn golygu y byddai cwsmeriaid yng Nghymru yn gallu gwneud dewisiadau mwy gwybodus wrth ddewis banc.
Meddai Rhun ap Iorwerth: “Mae wyneb bancio personol wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae llawer o fanciau’r stryd fawr wedi cau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae gwasanaethau ar-lein a bancio symudol yn golygu fod y ffordd yr ydym yn cael mynediad at ein banciau yn wahanol iawn.
“Dyna pam y dylai’r ymchwiliad gymryd i ystyriaeth y gwahaniaethau o ran anghenion defnyddwyr yng Nghymru.
“Rydym am i bawb ym mhob rhan o Gymru allu dewis banc ar y gwasanaethau mae’n eu cynnig, nid gan mai’r banc hwnnw yw’r unig un yn eu hardal.”