Fe fydd Aelod o Senedd Ewrop yn galw ar Lywodraeth Prydain i wneud cais am arian Ewrop i helpu gweithwyr purfa Murco yn Sir Benfro.

Hynny er eu bod fel arfer yn gwrthod gwneud cais, rhag ofn i hynny effeithio ar lefel yr ad-daliad Ewropeaidd sy’n dod i wledydd Prydain.

Yn ôl Jill Evans, ASE Plaid Cymru, mae’r argyfwng yn Aberdaugleddau rhy bwysig i beidio â defnyddio’r arian o gronfa o’r enw Cronfa Addasu Globaleiddio.

Fe fydd mwy na 300 o bobol yn colli eu gwaith yn uniongyrchol, ond mae disgwyl y bydd effaith ar fwy na 4,000 o swyddi eraill.

‘Blaenoriaeth i’r gweithwyr’

“Ar adeg o argyfwng, gyda’r cyhoeddiad am gau purfa Murco, fe ddylai’r Llywodraeth roi blaenoriaeth i anghenion y gweithwyr, eu teuluoedd a chymunedau yn Sir Benfro,” meddai Jill Evans.

“Mae llawer o weithwyr sydd wedi colli eu gwaith mewn gwledydd Ewropeaidd eraill wedi elwa o’r cymorth yma i ail hyfforddi, i chwilio am waith newydd neu i sefydlu eu busnesau eu hunain.

“R’yn ni i gyd yn talu i mewn ir gronfa hon felly mae’n bryd i weithwyr yng Nghymru gael yr un cymorth.”

Cais

Roedd cais tebyg ganddi wedi ei wrthod pan gaeodd ffatri ddillad Burberry yn y Rhondda wyth mlynedd yn ôl.

Ond mae wedi sgrifennu at Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, a’r Gweinidog Economi yn Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, yn gofyn iddyn nhw ymyrryd.