Carl Sargeant
Mewn llythyr agored sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae arweinwyr cynghorau leded Cymru yn “erfyn” ar Lywodraeth Cymru i newid y Bil Cynllunio er mwyn cryfhau’r sylw i’r iaith Gymraeg.
Fel arall, medden nhw, fydd dim modd gweithredu “am flynyddoedd” i atgyfnerthu ei safle.
Fe ddaeth arweinwyr cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Wrecsam, Conwy, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr ynghyd i lofnodi’r llythyr sy’n galw ar y Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant, i greu trefn cynllunio sy’n ateb anghenion Cymru.
Mae ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth yn dod i ben heddiw.
‘Colli cyfle hanesyddol’
Dyma ran o’r llythyr:
“Ysgrifennwn atoch er mwyn erfyn arnoch i ail-ystyried cynnwys Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru er mwyn creu trefn cynllunio sy’n ateb anghenion Cymru trwy daclo tlodi, diogelu ein planed a’n hamgylchedd, a chryfhau ein hiaith genedlaethol unigryw.
“Pe collir y cyfle hanesyddol hwn i sicrhau bod y drefn gynllunio yn adlewyrchu anghenion Cymru, byddai’n peryglu ein gallu i gryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau am nifer o flynyddoedd i ddod.”
Daw wedi i arweinydd Cyngor Sir Gâr, Kevin Madge, feirniadu Llywodraeth Cymru am roi rhy ychydig o sylw i’r Gymraeg yn y Bil Cynllunio newydd.
Momentwm
Wrth groesawu’r llythyr agored, dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Mae momentwm yn sicr tu ôl i’n hymgyrch, ac rwy’n meddwl y bydd yn amhosib i’r Llywodraeth wrthod newid y Bil erbyn hyn – mae ’na ormod o wrthwynebiad.
“Mae angen Bil er lles pobol Cymru, nid er hwylustod gweision sifil. Ymysg ein blaenoriaethau yw seilio’r nifer o dai ar anghenion lleol cymunedau, yn hytrach na thargedau cenedlaethol, gyda’r penderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol.
“Gyda’r gyfraith tu ôl iddi, gallai’r Gymraeg ffynnu ar lefel gymunedol dros y blynyddoedd i ddod.”
‘Lle’r cynghorau’ i weithredu
Yn y gorffennol, mae’r Llywodraeth wedi dweud mai lle’r cynghorau eu hunain yw sicrhau safle’r Gymraeg yn y broses gynllunio.
Mae cynghorau – gan gynnwys rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr – hefyd wedi cael eu beirniadu am gynllunio i godi gormod o dai mewn ardaloedd lle mae’r iaith yn gryf.