Edwina Hart
Fe fydd camau newydd yn cael eu cymryd i geisio lleihau nifer y beicwyr modur sy’n marw ar ffyrdd yng Nghymru.
Fe ddywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, fod 25 o bobol wedi marw ar fotobeics ar ffyrdd Cymru yn ystod naw mis cynta’r flwyddyn.
Roedd 12 o’r rheiny ar briffyrdd a 13 ar ffyrdd eraill ond, yn ôl y Gweinidog, does dim patrwm clir i’r marwolaethau.
Fe ddywedodd mewn datganiad i’r Cynulliad ei bod wedi trafod y pwnc gyda phob un o’r pedwar Prif Gwnstabl yng Nghymru ac fe fydd yr heddlu ac awdurdodau lleol yn astudio’r ystadegau ymhellach.
Y cam pwysica’ fydd sefydlu Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ond fe fydd arian hefyd yn mynd at gynlluniau sy’n ceisio gwella diogelwch gyrwyr beiciau modur ac fe fydd asesiad o ddulliau hyfforddi’r beicwyr eu hunain.
Osgoi’r damweiniau
“Mae modd osgoi’r marwolaethau hyn a’u goblygiadau trasig i’r teuluoedd a’r ffrindiau,” meddai Edwina Hart.
“Hefyd, mae effaith fawr ar eraill sy’n rhan o’r damweiniau a’r rheiny sy’n gweithio i’r gwasanaethau brys ac yn ymateb i’r damweiniau.
“Rydw i’n awyddus i edrych i weld a yw’n bosib gwella’r ffordd o adnabod a thargedu gyrwyr sydd fwya’ tebygol o gael gwrthdrawiadau.”