Yr hostel yn Argoed (Llun: Gwifren PA)
Mae honiadau fod dyn wedi cael ei ladd mewn hostel yn ne Cymru ar ôl iddo geisio bwyta rhan o gorff merch ifanc.
Roedd Matthew Williams, 34 oed, wedi cael ei saethu gan un o ynnau taser yr heddlu wrth iddo ymosod ar ferch 22 oed yn yr hen westy yn Argoed ger y Coed Duon yn Sir Caerffili.
Yn ôl adroddiadau lleol, roedd y ferch eisoes yn farw a Matthew Williams yn ymosod ar ei hwyneb hi.
Yn ôl yr heddlu, roedd Matthew Williams hefyd wedi marw yn y fan a’r lle er gwaetha’ cynigion i’w adfer.
Hostel
Roedden Heddlu Gwent wedi cael eu galw i’r Sirhowy Arms yn oriau mân bore ddoe ar ôl i staff diogelwch eu galw yno.
Mae’r adeilad bellach yn hostel i bobol ddigartre’, dan ofal Cyngor Sir Caerffili. Mae’n debyg fod lle yno i tua 26 o bobol.
Yn ôl pobol leol, roedd Matthew Williams yn dod o’r ardal ac wedi cael ei ollwng o’r carchar tua phythefnos yn ôl ar ôl dedfryd o bum mlynedd am ymosod ar ei bartner.
Yn ôl Heddlu Gwent, maen nhw’n ystyried mai achos o lofruddiaeth yw’r marwolaeth y ferch ifanc, a oedd hefyd yn dod o’r ardal, ond dydyn nhw ddim yn chwilio am neb arall.
Comisiwn cwynion
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu hefyd wedi cael eu galw i ymchwilio i’r digwyddiad gyda’r taser a marwolaeth Matthew Williams.
Mae hynny’n arferol mewn digwyddiad o’r fath.