Rheolwr Cymru Chris Coleman (llun: PA)
Mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey wedi’u enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y daith i Frwsel i herio Gwlad Belg yr wythnos nesaf.

Fe fydd hi’n rhyddhad i gefnogwyr Cymru weld nad yw unrhyw un o’u sêr mawr eraill, gan gynnwys Joe Allen ac Ashley Williams, yn absennol oherwydd anafiadau.

Mae James Collins, Paul Dummett, Lee Evans ac Adam Matthews hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu’r ddwy gêm ddiwethaf ag anafiadau.

Mae’r chwaraewyr canol cae Emyr Huws a Jonathan Williams hefyd yn holliach ar ôl anafiadau, ac mae asgellwr Birmingham Dave Cotterill yn cadw’i le yn y garfan ar ôl sgorio gôl agoriadol Cymru yn eu buddugoliaeth dros Gyprus fis diwethaf.

Ond er nad yw’r ymosodwyr Sam Vokes a Simon Church na’r chwaraewr canol cae Dave Edwards yn ffit, does dim lle i flaenwr Bolton Craig Davies yn y garfan.

Dyw Andy King ddim yn y garfan chwaith, a hynny am ei fod wedi’i wahardd am ddwy gêm yn dilyn ei gerdyn coch yn erbyn Cyprus.

Fe enwodd y Coleman chwaraewr Lerpwl Danny Ward fel y trydydd golwr, gan bod Kyle Letheren hefyd allan ag anaf, yn y garfan fydd yn herio Gwlad Belg ar 16 Tachwedd yn y grŵp rhagbrofol Ewro 2016.

Mae disgwyl i dros 3,000 o gefnogwyr deithio i Frwsel ar gyfer y gêm, gyda Chymru ar frig y grŵp ar hyn o bryd ar saith pwynt ar ôl tair gêm.

Gwlad Belg yw tîm cryfaf y grŵp, ac maen nhw hefyd yn ddiguro hyd yn hyn yn y grŵp ar ôl trechu Andorra a chael gêm gyfartal yn erbyn Bosnia-Herzegovina.

Llynedd fe deithiodd Cymru i Frwsel a chipio pwynt yng ngêm ragbrofol olaf ymgyrch Cwpan y Byd 2014, gydag Aaron Ramsey’n sgorio gôl hwyr i’w gwneud hi’n 1-1.

Carfan Cymru:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Danny Ward (Liverpool)

Ashley Williams (Abertawe), James Chester (Hull), James Collins (West Ham), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Paul Dummett (Newcastle), Neil Taylor (Abertawe), Sam Ricketts (Wolves), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Danny Gabbidon (Caerdydd)

Emyr Huws (Wigan), Joe Ledley (Crystal Palace), Joe Allen (Lerpwl), Aaron Ramsey (Arsenal), Jonathan Williams (Ipswich), Lee Evans (Wolves), Hal Robson-Kanu (Reading), David Cotterill (Birmingham)

George Williams (Fulham), Tom Lawrence (Caerlŷr), Jake Taylor (Reading), Gareth Bale (Real Madrid)