Mae’r Gleision wedi newid 14 o’u tîm ar gyfer y gêm yng Nghwpan LV yn erbyn Newcastle nos Wener.

Yr asgellwr Lucas Amorosino yw’r unig chwaraewyr sydd yn cadw’i le o’r pymtheg a ddechreuodd yn y golled i Munster y penwythnos diwethaf.

Bydd tri chwaraewr – Garyn Smith, Harry Davies a Jevon Groves – yn chwarae i’r rhanbarth am y tro cyntaf, ac mae 16 o’r 23 sydd yn y tîm wedi dod drwy academi’r Gleision.

Ellis Jenkins fydd yn gapten ar y tîm, gyda Groves a Rory Watts-Jones yn ymuno ag ef yn y rheng ôl.

Scott Andrews, Rhys Williams a Tom Davies fydd yn y rheng flaen, gyda Lou Reed a Chris Dicomidis yn bartneriaid yn yr ail reng.

Smith ac Amorosino fydd yn y canol, gyda Dan Fish yn gefnwr a Harry Davies a Tom Williams ar yr asgell.

Mewnwr Cymru Tavis Knoyle sydd yn hawlio’r crys rhif naw, gyda Simon Humberstone wrth ei ochr fel maswr.

Mae’r fainc yn un dibrofiad iawn, gydag Ethan Lewis, Callum Lewis, Dillon Lewis, Ben Roach, Will Thomas a Jack Phillips i gyd yn ymddangos dros y Gleision am y tro cyntaf os ddaw nhw i’r cae.

Tîm y Gleision: Dan Fish, Tom Williams, Lucas Amorosino, Garyn Smith, Harry Davies, Simon Humberstone, Tavis Knoyle; Tom Davies, Rhys Williams, Scott Andrews, Lou Reed, Chris Dicomidis, Jevon Groves, Ellis Jenkins (capt), Rory Watts-Jones

Eilyddion: Ethan Lewis, Callum Lewis, Dillon Lewis, Miles Normandale, Ben Roach, Tomos Williams, Will Thomas, Jack Phillips