Fe fydd y mewnwr Kieran Hardy a’r clo Shaun Jones yn chwarae dros y Scarlets am y tro cyntaf nos Wener wrth i’r hyfforddwr Wayne Pivac wneud newidiadau ar gyfer y Cwpan LV.

Fe fydd Bois y Sosban yn herio Northampton gartref ar Barc y Scarlets, gyda’r gic gyntaf am 7.30yh, ac mae’r hyfforddwr wedi manteisio ar y cyfle i arbrofi gyda’r tîm.

Dim ond saith chwaraewr sydd yn cadw’u lle o’r fuddugoliaeth yn erbyn Zebre y penwythnos diwethaf, a’r clo o Dde Affrica George Earle fydd yn arwain y tîm fel capten.

Steven Shingler sydd yn chwarae fel maswr unwaith eto, gyda Jordan Williams yn dychwelyd ar yr asgell a Steffan Evans yn cadw’i le fel cefnwr.

Mae rhywfaint mwy o brofiad yn y pac, gyda Phil John a Peter Edwards fel y ddau brop a’r blaenasgellwr Rob McCusker nôl ar ôl anaf.

Mae nifer o garfan y Scarlets i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol â Chymru, gydag eraill fel Ken Owens, Gareth Davies a Regan King allan ag anafiadau.

Gan fod Cwpan Eingl-Gymreig yr LV fel arfer yn gyfle i roi gêm i rai o’r chwaraewyr ar gyrion y garfan, mae rhai o sêr eraill y Scarlets gan gynnwys Harry Robinson, John Barclay ac Aaron Shingler yn cael hoe.

Tîm y Scarlets: Steffan Evans, Jordan Williams, Steffan Hughes, Gareth Owen, Frazier Climo, Steven Shingler, Kieran Hardy; Phil John, Kirby Myhill, Peter Edwards, Shaun Jones, George Earle (capt), Rob McCusker, James Davies, Rory Pitman

Eilyddion: Ryan Elias, Wyn Jones, Jacobie Adriaanse, Phil Day, Sion Bennett, Rhodri Davies, Josh Lewis, Aaron Warren