Shane Williams
Mae cyn-asgellwr Cymru Shane Williams wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd o Siapan ar ddiwedd y tymor – ac yn ymddeol go iawn y tro hwn!
Cyfaddefodd y dewin bach ei fod yn gobeithio datblygu’i yrfa fel hyfforddwr unwaith y bydd yn rhoi’i sgidiau i gadw am y tro olaf, a’i bod yn freuddwyd arno i reoli’i wlad ryw ddydd.
Bydd Williams, sydd bellach yn 37 oed, yn gadael y Mitsubishi Dynaboars ym mis Chwefror ar ddiwedd ei drydydd tymor yn chwarae i’r clwb.
Yn ystod gyrfa’r asgellwr fe sgoriodd 58 cais mewn 87 gêm dros Gymru, record dros ei wlad a’r ail nifer fwyaf o geisiau erioed mewn rygbi rhyngwladol heblaw am David Campese o Awstralia.
Roedd eisoes wedi chwarae sawl gêm ‘ymddeol’ dros Gymru, y Gweilch a’r Barbariaid cyn penderfynu parhau i chwarae yn nwyrain Asia, ac ymddangos unwaith eto i’r Llewod yn y cyfamser.
Heddiw fe bostiodd Williams neges ar Twitter yn cadarnhau ei fod yn dychwelyd i Gymru.
“Mae fy nhair blynedd gyda Mitsubishi wedi bod yn anhygoel ond ar ôl y tymor yma mae’n bryd dod gartref!! #amserteulu #gwaithiwwneud,” meddai.
Hyfforddi
Ers symud i Siapan mae Williams, gynt yn asgellwr i Gastell-Nedd ac yna’r Gweilch, wedi bod yn cyfuno chwarae dros y Dynaboars gyda hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.
Dywedodd mewn cyfweliad i bapur y Telegraph ei fod yn gobeithio hyfforddi Cymru a’r Llewod yn y dyfodol, ar ôl cyfnod yn casglu’i fathodynnau hyfforddi a pharhau i sylwebu.
Ac mae’n teimlo fod ei gyfnod yn Siapan wedi bod o gymorth mawr iddo wrth gymryd y camau cyntaf ar y trywydd hwnnw.
“Un o’r rhesymau pam ei bod hi’n grêt i mi ddechrau yn Siapan oedd achos mod i’n gwybod na fydden i’r gorau yn y byd yn syth,” meddai Williams wrth y Telegraph.
“Roeddwn i eisiau datblygu fy hun fel hyfforddwr, canfod beth yw fy nghryfderau a fy ngwendidau. Dyw e ddim yn hawdd hyfforddi yn Siapan.
“Yn gyntaf, chi ddim yn siarad yr iaith. Mae’r diwylliant yn wahanol. Mae’n rhaid i chi ddweud wrthyn nhw beth chi eisiau iddyn nhw wneud.
“Roedd rhaid dysgu’r pethau syml, nôl i’r dechrau, dysgu sut i basio, taclo, ac yna mynd o fanno. Hoffwn i feddwl bod e wedi gwneud gwahaniaeth.”