Stadiwm Roi Badouin ym Mrwsel, Gwlad Belg
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cadarnhau wrth golwg360 bod dros 3,000 o bobl wedi ceisio am docynnau i wylio’r gêm rhwng Cymru a Gwlad Belg ym Mrwsel ar 16 Tachwedd.

Cafodd nifer o gefnogwyr eu siomi’r wythnos hon wrth i CBDC gysylltu â phobl i adael iddyn nhw wybod a oedden nhw wedi bod yn llwyddiannus â’u cais.

Bydd 2,410 o gefnogwyr Cymru’n gwylio’r gêm yn Stadiwm Roi Badouin ym Mrwsel yr wythnos nesaf, wrth i’r tîm cenedlaethol barhau â’u hymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Ewro 2016.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Bêl-droed eu bod eisoes wedi cynyddu nifer y tocynnau oedd ar gael i gefnogwyr Cymru, ond nad oedd y Belgiaid wedi cytuno i roi rhagor.

Fe fydd y stadiwm, sydd yn dal 60,000 o bobl, yn llawn ar gyfer y gêm ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Gwlad Belg werthu’u holl docynnau cartref o fewn diwrnod o’u rhyddhau nhw ar werth.

Mae Cymru’n teithio i Wlad Belg ar gyfer y gêm ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016, gyda saith pwynt o’u tair gêm gyntaf.

Cefnogaeth yn tyfu

Roedd yn rhaid i CBDC gyflwyno system wobrwyo ar gyfer dosbarthu tocynnau’r gêm ym Mrwsel i gefnogwyr Cymru, ar ôl cynnydd sylweddol yn y galw.

Ym mis Hydref y llynedd dim ond 1,000 o gefnogwyr a deithiodd i Frwsel i wylio Cymru ar ddiwedd ymgyrch ragbrofol aflwyddiannus Cwpan y Byd.

Ond ar ddechrau ymgyrch newydd eleni fe deithiodd 1,200 i wylio’r tîm yn Andorra ym mis Medi, a chyfanswm o dros 50,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gemau yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Chyprus ym mis Hydref.

Mae cyfanswm o bron i 8,000 o gefnogwyr ag Aelodaeth Aur CBDC sydd yn angenrheidiol er mwyn teithio i gemau oddi cartref, ond dyw pawb sydd yn aelodau ddim yn ceisio am docynnau ar gyfer pob gêm.

Dywedodd CBDC wrth golwg360 eu bod wedi rhoi blaenoriaeth i gefnogwyr ffyddlon oedd wedi gwylio gemau rhyngwladol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd y rheiny’n cynnwys unrhyw un oedd wedi prynu aelodaeth ar gyfer y ddwy ymgyrch flaenorol, neu docyn tymor cartref ar gyfer ymgyrch Ewro 2016, neu unrhyw un oedd wedi mynychu gemau oddi cartref Cymru yn yr Iseldiroedd neu Andorra yn gynharach eleni.

Fe dderbyniodd 25% o’r rheiny oedd ddim wedi cyrraedd y gofynion hynny docynnau hefyd, ar ôl cael eu dewis ar hap.

‘System deg’

Roedd blogiwr pêl-droed golwg360, Llywelyn Williams, yn un o’r rheiny fu’n aros i glywed ddydd Llun a fyddai’n cael tocyn ar gyfer y gêm.

Fe fuodd ef ym Mrwsel y llynedd yn gwylio’r tîm, ac mae hefyd wedi mynychu amryw o gemau cartref diweddar, ond fe gyfaddefodd nad oedd e’n siŵr a fyddai hynny’n ddigon.

“Ro’n i’n reit bryderus, achos o weld Twitter roedd ‘na rai cefnogwyr selog fel petai nhw heb gael, a hefyd rhai oedd wedi archebu o fewn grŵp wedi cael ac eraill ddim,” meddai Llywelyn.

“Ro’n i’n paratoi fy hun i beidio cael tocyn a dweud y gwir!”

Ond mae’n cytuno â’r broses a ddefnyddiwyd i ddosbarthu’r tocynnau i’r cefnogwyr.

“Mae’n deg iawn y ffordd maen nhw wedi’i wneud o –ti’n cael y bobl sy’n angerddol dros eu gwlad ac wedi bod yn dilyn gartref ac i ffwrdd yn medru mynd.

“Ond mae o’n broblem i bobl sydd heb yr arian i deithio oddi cartref, neu fethu teithio lawr i Gaerdydd ar gyfer gemau cartref.”