Leon Britton
Mae Abertawe’n gobeithio gweld Leon Britton yn dychwelyd i’r tîm cyn diwedd y mis, ar ôl i’r chwaraewr canol cae ddechrau ymarfer eto’r wythnos hon.

Dyw Britton, sydd yn 32 oed, heb chwarae eto i’r Elyrch y tymor hwn oherwydd anaf a gafodd i’w ben-glin dros yr haf.

Ond fe ddywedodd y clwb ar eu gwefan fod Britton wedi ymarfer rhywfaint am y tro cyntaf gyda gweddill y tîm ar ddydd Mawrth.

Mae disgwyl nawr iddo barhau i ymarfer rhywfaint yr wythnos hon, cyn dychwelyd i ymarfer yn llawn yn ystod y cyfnod o gemau rhyngwladol.

Fe fydd Abertawe’n herio Arsenal yn Stadiwm y Liberty ar brynhawn dydd Sul 9 Tachwedd, cyn i lawer o’r garfan adael er mwyn chwarae dros eu gwledydd yr wythnos ganlynol.

Bydd Britton yn parhau i ymarfer yn ystod y cyfnod hwnnw, gyda’r gobaith y bydd yn ffit ar gyfer y gêm yn erbyn Manchester City ar 22 Tachwedd unwaith y bydd gemau’r Uwch Gynghrair yn ailddechrau.

Mae’r amddiffynwyr Jordi Amat a Dwight Tiendalli hefyd wedi dechrau ymarfer unwaith eto ar ôl anafiadau.

Dyw Amat heb chwarae ers mis Medi ar ôl anafu’i ben-glin yn y golled o 4-2 yn erbyn Chelsea, tra bod Tiendalli heb chwarae ers gêm gwpan Capital One ym mis Awst yn dilyn anaf i gesail y forddwyd.