George North
Mae hyfforddwr Cymru Rob Howley wedi mynnu y bydd yn ddigon cyfforddus gweld George North yn chwarae yn y canol i Gymru yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.
Symudwyd North o’r asgell i’r canol yn dilyn anafiadau i Jonathan Davies a Scott Williams, gyda Chymru’n gobeithio manteisio ar gryfder a phŵer y gŵr o Fôn sydd wedi denu’r llysenw ‘Gogzilla’.
Fe ddylai Davies a Williams fod yn ffit ar gyfer ail gêm Cymru yn yr hydref, yn erbyn Fiji ar 15 Tachwedd, gyda Howley’n cyfaddef eu bod yn agos at gael eu dewis i herio Awstralia.
Ond mae’r hyfforddwr yn hyderus y gall North lenwi’r bwlch wrth ochr Jamie Roberts am un gêm, gyda Liam Williams yn cymryd lle North ar yr asgell.
“Mae George wedi mynd yno [i’r canol] o’r blaen, yn erbyn Ffrainc tymor diwethaf [yn y Chwe Gwlad] ac yn erbyn Awstralia [yng ngemau’r hydref llynedd],” meddai Howley.
“Bydd e’n dod o dan bwysau’n amddiffynnol o ran ei benderfyniadau ar y cae, ond rydyn ni’n ddigon cyfforddus cael George yng nghanol cae, ac fe fydd cael Llew arall, Jamie Roberts, wrth ei ymyl yn rhoi hyder iddo.”
Brwydr y mewnwyr
Yn ogystal â newidiadau yn y canol, fe ddewisodd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland fewnwr newydd, gyda Rhys Webb yn hawlio’r crys o flaen Mike Phillips.
Cyd-chwaraewr Webb gyda’r Gweilch, Dan Biggar, fydd yn dechrau fel maswr ac fe ddywedodd Howley eu bod yn awyddus i weld y bartneriaeth sydd wedi bod yn llwyddiannus ar lefel rhanbarthol yn parhau gyda Chymru.
“Mae eu cyfuniad nhw [Webb a Biggar] wedi sefyll mas yn y Guinness Pro12 eleni,” meddai Howley.
“Mae wastad yn anodd pan mae gennych chi un o oreuon y byd [Mike Phillips], chwaraewr allweddol yn ein tîm, ac wedyn mewnwr sydd mwyaf tebyg yn chwarae orau yng Nghymru ar hyn o bryd a chyda partneriaeth dda â Dan.
“Rydyn ni’n ffodus fod gennym ni gymaint o dalent yn safle’r mewnwr,” ychwanegodd Howley.
Gweithio ar y ffitrwydd
Yn y rheng flaen i wynebu Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn mae Paul James, Richard Hibbard a Samson Lee, gan olygu lle ar y fainc yn unig i Gethin Jenkins.
Un arall fydd yn gorfod bodloni â lle ymysg yr eilyddion yw Justin Tipuric, gyda Gatland yn dewis rheng ôl o Dan Lydiate, Sam Warburton a Taulupe Faletau.
Er nad yw Lydiate wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i Racing Metro dros y misoedd diwethaf, dywedodd Howley ei fod yn ffit ac yn ysu i chwarae, a bod Cymru eisiau manteisio ar ei gryfder yn ardal y dacl.
A chyda gemau yn erbyn Seland Newydd a De Affrica hefyd i ddod dros y mis nesaf wrth iddyn nhw baratoi am Gwpan y Byd 2015, mae’r hyfforddwyr eisoes wedi bod yn gwthio’r chwaraewyr o ran eu paratoadau corfforol.
“Roedd rhaid i ni newid rhywbeth ar ôl dechrau araf i gemau cyntaf [yr hydref yn y gorffennol] pan oedd hi’n dod at gyflymder y gêm,” meddai Howley.
“Rydyn ni wedi ceisio ail-greu hynny yn y pythefnos diwethaf, ac mae’r chwaraewyr wedi cael hynny’n anodd.”