Bolton 3–0 Caerdydd
Cafodd Caerdydd eu curo’n gyfforddus wrth iddynt ymweld â Stadiwm Macron i herio Bolton yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.
Rhwydodd Liam Feeney ddwywaith i’r tîm cartref yn yr hanner cyntaf cyn i Matt Mills selio’r tri phwynt gyda’r drydedd wedi’r egwyl.
Roedd y Cymro, Craig Davies, eisoes wedi methu cyfle i’r tîm cartref pan roddodd Fenney hwy ar y blaen wedi dim ond naw munud. Croesodd Lee Chung-Yong iddo yn y canol a gwnaeth yntau’r gweddill.
Ychwanegodd Fenney ei ail ef ac ail ei dîm wedi hanner awr yn dilyn gwaith creu gan gyn chwaraewr Abertawe, Darren Pratley, y tro hwn.
Roedd y gêm ar ben i Gaerdydd chwarter awr o’r diwedd pan greodd Max Clayton y drydedd i Mills.
Mae Caerdydd yn aros yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth er iddynt golli am y tro cyntaf ers i Russell Slade gymryd yr awenau.
.
Bolton
Tîm: Lonergan, Feeney (Clayton 71′), Mills, Dervite, Ream, Vela, Danns, Davies (Spearing 52′), Lee Chung-yong, Pratley, Davies (Beckford 85′)
Goliau: Feeney 9’, 36’, Mills 76’
Cerdyn Melyn: Pratley 83’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Brayford, Ecuele Manga, Morrison, Fabio, Noone, Gunnarsson, Whittingham, Ralls (R. Morrison 45′), Macheda , Le Fondre (Maynard 74′)
Cerdyn Melyn: R. Morrison 83’
.
Torf: 12,961,