Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi enwi ei garfan ar gyfer gem gyntaf Cymru yng Ngemau’r Hydref eleni.

Cyhoeddwyd toc wedi 12:00 fod Sam Warbuton yn dychwelyd i arwain y tîm fel capten a Leigh Halfpenny, Rhys Webb a Richard Hibbard yn ôl yn y garfan yn dilyn anaf, ar ôl iddyn nhw fethu a chwarae yn nhaith Cymru i Dde Affrica.

Mi fydd George North yn symud i’r canol at Jamie Roberts, sef yr un bartneriaeth gafodd ei dewis i chwarae yn erbyn Ffrainc yn ystod gemau’r Chwe Gwlad.

Yn ogystal, bydd Rhys Webb yn chwarae fel mewnwr yn lle Mike Phillips – dewis eithaf dadleuol yn ôl rhai – a Liam Williams yn cymryd lle George North ar yr asgell.

Paul James, Richard Hibbard a Samson Lee fydd yn dechrau’r y rheng flaen, gyda Jake Ball yn ymuno ag Alun Wyn Jones yn yr ail reng.

Dan Lydiate a Taulupe Faletau sydd wedi’u dewis yn y rheng ôl ochr yn ochr â Warburton, gan olygu lle ar y fainc yn unig i Justin Tipuric.

Nid yw Luke Charteris yn y tîm gan fod Undeb Rygbi Cymru wedi taro bargen â’i glwb Racing Metro, sydd yn golygu fod y clo yn chwarae dros Racing y penwythnos hwn ar yr amod ei fod yn cael chwarae i Gymru yn erbyn De Affrica ar ddiwedd y mis.

Gobaith

Yn wyth gêm ddiwethaf Cymru yn erbyn Awstralia mae’r Wallabies wedi trechu’r Cymry ond mae Warren Gatland yn gobeithio y bydd yr arfer hwnnw’n dod i ben.

“Rydym wedi cael ychydig o wythnosau caled iawn o ymarfer, ac mae’r sgwad wedi cael eu profi i’r eithaf,” meddai Gatland.

“Mae’n braf gallu dod a rhai o’r chwaraewyr wnaeth fethu’r daith i Dde Affrica yn ôl, ac maen nhw’n ychwanegu at dîm profiadol iawn.

“Mae’r gemau diwethaf yn erbyn Awstralia wedi bod yn agos iawn. Rydym yn disgwyl i’r un peth ddigwydd y penwythnos yma ac mae hi am fod yn ornest ond yn sialens yr ydym yn edrych ymlaen yn fawr ati hi.”

Bydd y gêm yn cychwyn am 2:30yp yn Stadiwn y Mileniwm, Caerdydd.

Tîm Cymru v Awstralia:

Leigh Halfpenny (Toulon), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Paul James (Caerfaddon), Richard Hibbard (Caerloyw), Samson Lee (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate, Sam Warburton (Gleision – capten), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion:

Scott Baldwin (Gleision), Gethin Jenkins (Gleision), Rhodri Jones (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Priestland (Scarlets), Cory Allen (Gleision)