Sion Jones, sy’n Gynghorydd Sir Llafur dros ward Bethel a Llanddeiniolen
Mae cynghorydd sir yng Ngwynedd wedi dweud nad oes “dim o’i le” gyda phobl ifanc yn gadael y byd addysg yn un ar bymtheg oed i chwilio am waith neu ddechrau busnes o’r newydd.
Meddai Sion Jones, sy’n Gynghorydd Sir Llafur dros ward Bethel a Llanddeiniolen, ei fod yn “hynod bryderus” ynglŷn â sgiliau gwaith pobl ifanc a bod “diffyg difrifol” o bobl ifanc sy’n datblygu sgiliau rhyngweithio sy’n cael eu hennill gyda phrofiad gwaith.
Daeth ei sylwadau wrth i’r Gweinidog Addysg Huw Lewis lansio ymgyrch ymwybyddiaeth i sicrhau bod pawb yn deall y newidiadau i gymwysterau TGAU yng Nghymru sy’n dod i rym y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Sion Jones: “Fel un sydd wedi gadael ysgol uwchradd yn un ar bymtheg heb lawer o gymwysterau, dwi’n cefnogi’r newidiadau sydd yn cael eu gweithredu gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis yn llwyr.
“Er fy mod i’n parhau heddiw heb lawer o gymwysterau ar bapur, byswn i’n gwneud yr union yr un penderfyniad i adael yr ysgol heb gymwysterau a dilyn yr un trywydd.”
‘Pwysau ar blant’
Gadawodd Sion Jones, 23, yr ysgol pan oedd un 16 oed ac yn ddiweddar mae o wedi gwerthu cwmni arwerthu tai, Eiddo, yn ardal Caernarfon gyda’r bwriad o sefyll fel ymgeisydd dros y blaid Lafur yn Arfon yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.
Ychwanegodd Sion Jones: “Dw i’n cael yr anrhydedd bob hyn a hyn i weithio gydag ysgolion wrth siarad am wleidyddiaeth.
“Ond mae’r myfyrwyr, ac athrawon, yn edrych yn wirion arna’ i pan dwi’n mynegi nad oes dim byd o’i le gyda gadael yr ysgol yn un ar bymtheg i chwilio am waith neu ddechrau busnes o’r newydd.
“Dwi’n gweld bod rhieni’r dyddiau hyn yn rhoi pwysau ar eu plant i fynd ymlaen gydag addysg bellach, ond mae angen rhoi hyder iddyn nhw fynd ymlaen i’r byd gwaith a magu a datblygu’r profiadau sydd mor bwysig mewn bywyd.”
Dywedodd Sion Jones hefyd ei bod hi’n “siomedig” gweld ffrindiau ysgol iddo sydd wedi gadael yr ysgol a phrifysgol gyda chymwysterau rhagorol, ond yn methu cael swydd dda yn dilyn hynny.
“Y rheswm pendant dros hynny yw diffyg sgiliau a phrofiad gwaith,” meddai.