Darran Phillips, prif weithredwr y Scarlets
Mae’r Scarlets wedi cadarnhau fod Darran Phillips wedi cael ei benodi fel prif weithredwr newydd y rhanbarth, gan olynu Mark Davies yn y swydd.

Bydd Phillips, sydd yn siaradwr Cymraeg o Aberdâr, yn ymuno â’r rhanbarth ar ôl 20 mlynedd o weithio yn y sector ariannol gan gynnwys fel cyfarwyddwr i gwmni Zurich.

Mae’n golygu diwedd ar gyfnod Mark Davies, a gafodd ei benodi’n brif weithredwr ar y Scarlets yn 2010, wrth y llyw.

‘Brand byd eang’

Yn ogystal â gweithio i fanc Zurich, a ddatblygodd berthynas noddi â thîm rygbi’r Llewod, bu Phillips hefyd yn gweithio i gwmni buddsoddi Threadneedle Investments yn Llundain.

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf fe gyhoeddodd y Scarlets golledion er gwaethaf addewid y cyn-brif weithredwr Mark Davies y byddai’n mantoli’r cyfrifon erbyn 2014.

Yn ogystal â phenodiad Darran Phillips, fe fydd Jon Daniels hefyd yn ymuno â Bwrdd y Scarlets fel Prif Swyddog Rheoli fydd yn gyfrifol am faterion dydd i ddydd yn y clwb.

Cyfaddefodd Phillips ei fod yn cymryd yr awenau ar ganol cyfnod heriol, ond mynnodd hefyd fod gan ranbarth y Scarlets frand unigryw fyddai’n gallu sicrhau llwyddiant masnachol.

“Mae’n fraint cymryd rôl prif weithredwr y Scarlets ac rwyf wrth fy modd o dderbyn swydd mor heriol,” meddai Darran Phillips.

“Mae ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn gyda’r Scarlets, nid yn unig yng ngorllewin Cymru ond ym Mhrydain ac ar draws y byd.

“Mae pobl yn dysgu gwerthoedd pwysig drwy rygbi ac rydyn ni’n ffodus i gael brand y mae pobl ledled y byd yn medru uniaethu ag e.”