Paul Dummett, amddiffynnwr Newcastle (llun o wefan y clwb)
Llwyddodd Newcastle a Paul Dummett i gadw llechen lân arall wrth gipio buddugoliaeth o 1-0 gartref yn erbyn Lerpwl, gyda Joe Allen yn chwarae awr i’r gwrthwynebwyr ond ddim yn chwarae’i gêm orau ac yn flêr gyda meddiant ambell waith.
Cael a chael oedd hi i Arsenal gartref yn erbyn Burnley cyn i Aaron Ramsey ddod ar y cae ar ôl 63 munud – o fewn saith munud, ei bas ef roddodd le i Calum Chambers groesi am gôl agoriadol Alexis Sanchez, ac fe orffennodd hi’n 3-0.
Llwyddodd amddiffyn Abertawe, oedd yn cynnwys Ashley Williams a Neil Taylor, ddal gafael ar bwynt a llechen lân ar ôl iddyn nhw fynd i lawr i ddeg dyn yn erbyn Everton, gyda’r gêm yn gorffen yn ddi-sgôr.
Colli 1-0 yn anlwcus wnaeth Caerlŷr yn erbyn West Brom, gydag Andy King yn chwarae’r 90 munud llawn, wrth i Esteban Cambiasso rwydo i’w gôl ei hun mewn amgylchiadau anffodus.
Gôl syfrdanol enillodd y gêm i Southampton hefyd yn erbyn Hull a James Chester, wrth i Victor Wanyama rwydo o 45 llathen ar ôl tri munud ar gyfer unig gôl y gêm.
Ac fe ddaeth rhediad da diweddar West Ham yn yr Uwch Gynghrair i ben gyda cholled o 2-1 yn Stoke, gyda James Collins yn chwarae gêm lawn.
Yn y Bencampwriaeth, gwylio o’r fainc oedd Danny Gabiddon wrth i Gaerdydd gipio buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Leeds.
Fodd bynnag, fe ddaeth Cymro oddi ar y fainc i’r gwrthwynebwyr wrth i’r chwaraewr canol cae Chris Dawson ddod ymlaen fel eilydd am Steve Morison.
Tarodd Dave Edwards y trawst wrth iddo ef a Lee Evans fethu ag ennill gartref gyda Wolves yn erbyn tîm Birmingham Dave Cotterill.
Llwyddodd Charlton i gipio pwynt yn erbyn Sheffield Wednesday ar ôl i Rhoys Wiggins greu’r gôl i unioni’r sgôr, gyda Cymro arall ar y fainc – na nid Simon Church, ond yr amddiffynnwr Morgan Fox.
Peniodd Joel Lynch gôl agoriadol Huddersfield wrth iddyn nhw ennill yn gyfforddus a chadw llechen lân yn erbyn David Vaughan a Nottingham Forest.
Colli o 3-1 oedd hanes Reading yn Blackburn, gyda Chris Gunter yn chwarae gêm lawn a Jake Taylor a Hal Robson-Kanu yn dod oddi ar y cae ar ôl awr.
Cyfartal oedd hi o 3-3 mewn gêm gyffrous rhwng Wigan a Fulham, gydag Emyr Huws a George Williams yn wynebu’i gilydd yng nghanol cae.
Colli 3-0 wnaeth Craig Morgan a Rotherham yn erbyn Middlesbrough, ac fe ddaeth Craig Davies ar y cae am bum munud wrth i Bolton golli 2-1 yn Norwich nos Wener.
Yn yr Alban fe chwaraeodd Adam Matthews 27 munud i Celtic, ac yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Lewin Nyatanga, James Wilson, Gwion Edwards, Joe Walsh, Tom Bradshaw a Josh Pritchard, gydag Edwards yn creu gôl i Crawley, a Bradshaw’n sgorio o’r smotyn am ei seithfed o’r tymor i Walsall.
Dim Gareth Bale unwaith eto i Real Madrid, ond y newyddion da i gefnogwyr Cymru llai na phythefnos cyn y trip i Wlad Belg yw bod disgwyl i’r Cymro fod nôl yn ymarfer eto’r wythnos hon.
Seren yr wythnos – Paul Dummett. Digon cadarn yn erbyn Lerpwl, ac wedi haeddu’i le yn rhediad da diweddar Newcastle.
Siom yr wythnos – Joe Allen. Cefnogwyr Lerpwl yn ysu amdano pan oedd wedi anafu, ond heb wneud llawer o argraff ers dychwelyd a siomedig eto dydd Sadwrn.