Dan Lydiate - ei gyfnod yn Ffrainc ar ben
Er bod llawer o’r Cymry oddi Cartref eisoes wedi ymuno â’r garfan ryngwladol ar gyfer gemau’r hydref, roedd digon o eraill yn awyddus i wneud eu marc dros eu clybiau yn Lloegr a Ffrainc dros y penwythnos.

Mike Phillips oedd un o’r unig rai sydd yng ngharfan Cymru i chwarae dros ei glwb, wrth i Racing Metro wrth iddyn nhw golli 17-21 gartref i Oyonnax.

Luke Charteris oedd yr unig Gymro arall i chwarae i Racing, gan ddod oddi ar y fainc – ac wrth gwrs mae Dan Lydiate wedi chwarae’i gêm olaf dros y clwb ar ôl cytuno i ddychwelyd i Gymru.

Bechgyn Racing oedd yr unig Gymry i chwarae yn Ffrainc dros y penwythnos, gyda Toulon ddim angen Leigh Halfpenny wrth iddyn nhw sgorio naw cais a rhoi crasfa o 61-28 i Grenoble.

Yn Lloegr Cwpan Eingl-Gymreig yr LV oedd yn cymryd y sylw, a chyfle felly i rai o’r chwaraewyr ar ymylon y garfan gael cyfle.

Fe enillodd Sale o 32-29 yn erbyn Wasps diolch i gicio’r eilydd o faswr Nick MacLeod, a ddaeth oddi ar y fainc a throsi cais a chic gosb hwyr i gipio’r fuddugoliaeth.

Fe chwaraeodd Cymry Sale i gyd eu rhan, gyda Marc Jones yn dechrau yn y rheng flaen ac Eifion Lewis-Roberts a Jonathan Mills yn dod ymlaen fel eilyddion hefyd – Thomas Young oedd yr unig Gymro yn nhîm Wasps.

Cafodd Gavin Henson gêm fel maswr wrth i Gaerfaddon ennill yn gyfforddus o 47-7 yn erbyn Cymry Llundain, gan gicio dwy gic gosb a throsi tair cais. James Down, Rob Lewis a Nic Reynolds oedd y tri Chymro yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Cael a chael oedd hi i Gaerwysg yn erbyn Caerloyw wrth iddyn nhw ennill o 28-27, gyda’r canolwr Adam Hughes yn sgorio’r cais gyntaf a Ceri Sweeney yn cicio 13 pwynt.

Roedd yn gyfle prin i Tom James ddechrau i Gaerwysg, gyda Tom Isaacs ac Aled Thomas hefyd yn cael cyfle i greu argraff yn nhîm Caerloyw.

Darren Allinson oedd yr unig Gymro ar y cae wrth i’r mewnwr ddechrau yn nhîm Gwyddelod Llundain yn erbyn Caerloyw – yn anffodus, colli 16-17 oedd hanes ei dîm.

Ac fe ddechreuodd y prop Rhys Gill wrth i’r Saracens drechu Harlequins gartref o 25-20.

Seren yr wythnos – Nick MacLeod. Ymlaen fel eilydd, ond yn trosi’r gic gosb hwyr allweddol i gipio’r fuddugoliaeth.

Siom yr wythnos – Dan Lydiate. Cadarnhad yr wythnos hon fod ei gyfnod siomedig yn Ffrainc ar ben.