Mae ffordd wedi’i chau yn ardal Cathays, Caerdydd, wedi tân mewn adeilad yno.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw tua chanol dydd heddiw, a hynny i ymladd fflamau mewn ty yn Fairoak Road.

Mae’r gwasanaeth wedi cadarnhau fod pedair injan dân wedi ymateb i’r alwad.

Yn y cyfamser, mae’r ymchwiliad wedi dechrau, i geisio darganfod beth achosodd y tân.