Mae byddin Burkina Faso wedi penodi arweinydd dros-dro, wedi i brotestiadau treisgar ddisodli’r arlywydd o’i swydd ar ôl 27 mlynedd wrth y llyw.

Mae cytundeb wedi’i arwyddo sy’n nodi mai Isaac Yacouba Zida fydd yn arwain y wlad yn ystod y cyfnod nesa’ yn ei hanes.

Yn ôl y datganiad, fe fydd “cyfnod y trosglwyddo”, ynghyd â’i “hyd a’i ffurf” yn cael ei bennu eto, yn dilyn trafodaethau.

Fe ymddiswyddodd Blaise Compaore ddoe, wedi dau ddiwrnod o brotestio treisgar yn erbyn ei fwriad i ddiwygio cyfansoddiad y wlad ac i sefyll yn y swydd am dymor arall.