Coral Jones (ar y dde) gyda'i gwr, Paul, adeg achos llys Mark Bridger ym mis Mai 2013
Mae disgwyl i fam y ferch bum mlwydd oed o Fachynlleth, April Jones, dalu teyrnged i’w merch pan fydd yn cymryd rhan mewn gwasanaeth carolau yng Nghaerdydd fis nesa’.
Fe fydd Coral Jones yn cymryd rhan mewn gwasanaeth wedi’i drefnu gan elusen sy’n gweithio gyda theuluoedd a ffrindiau pobol ar goll, a hynny ar Ragfyr 11.
Bryd hynny, fe fydd yn cofio ei merch a ddiflannodd o’r tu allan i’w cartre’ ar stad Bryn y Gog ym Machynlleth ar Hydref 1, 2012, wedi ei chipio a’i lladd yn ddiweddarach gan Mark Bridger.
“Er cynnal y chwilio mwya’ a welodd gwledydd Prydain erioed, fe ddaeth ein stori ni i ben mewn trasiedi,” meddai Coral Jones.
Bydd y gwasanaeth carolau yng Nghaerdydd, gan elusen Missing People, yn cofio pawb sydd ar goll, ac yn ceisio cefnogi eu teuluoedd sy’n poeni amdanyn nhw.