Mae beiciwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, yn dilyn damwain gyda lori ger yr Ewroparc ym Magwyr fore heddiw.

Fe gafodd y beiciwr 34 oed ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn y digwyddiad am 8 o’r gloch y bore.

Mae’r dyn 61 oed oedd yn dreifio’r lori wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus. Mae’n dal i fod yn y ddalfa.

Yn y cyfamser, mae Heddlu Gwent yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y ddamwain i gysylltu gyda nhw trwy ffonio’r rhif 101.