Mae’r cwango sy’n hybu gwaith awduron wedi amddiffyn ei ran yn nathliadau pen-blwydd canrif ers geni’r bardd Dylan Thomas.
Yn ôl Llenyddiaeth Cymru maen nhw wedi derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w wario ar y dathliadau, a heb wario’r un geiniog o’i gyllid craidd – £851,913 – ar yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel ‘Dylandod’ gan Brifardd a cherddor sy’n olygydd cylchgrawn barddoniaeth Barddas.
Yn sgwennu ar flog Cymraeg y BBC fe ddywedodd Twm Morus:
“…mae un agwedd andwyol iawn ar yr ‘heip’ i gyd, sef bod y corff sy’n gyfrifol am noddi llenyddiaeth yng Nghymru wedi penderfynu ceisio dyrchafu Dylan Thomas yn rhyw fath o Robbie Burns i’r Cymry
…Neilltuwyd arian mawr iawn eleni i hyrwyddo’r Dylandod, ar draul pob mathau o weithgareddau eraill drwy Gymru, ac ar draul gwaith beirdd sy’n dal yn fyw.”
Ond mae Llenyddiaeth Cymru yn gwadu bod unrhyw feirdd nag awduron wedi colli allan.
Meddai’r Prif Weithredwr Lleucu Siencyn: “Cafwyd arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Roedd yr arian hwn yn benodol ar gyfer dathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas, y nawdd ychwanegol mwyaf i lenyddiaeth erioed. Ni wnaeth hyn amharu ar wariant cyffredinol Llenyddiaeth Cymru – ni ddefnyddiwyd arian Awduron ar Daith ar gyfer gweithgareddau Dylan Thomas, i sicrhau tegwch i weithgareddau llenyddol eraill.”
Dylandod yn hybu twristiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn eu gwariant ar y dathlu hefyd, gan ddweud ei fod yn ffordd o werthu Cymru dramor fel gwlad sy’n werth ei gweld.
“Er bod codi ymwybyddiaeth o Dylan Thomas a’i waith yn rhan bwysig o’n rhaglen o ddigwyddiadau, mae llawer mwy i’r dathliadau na hyn,” meddai llefarydd.
“Y nod yw defnyddio poblogrwydd byd-eang Dylan Thomas i godi ymwybyddiaeth o Gymru fel cyrchfan dwristiaid rhagorol, sy’n gyfoethog mewn celfyddyd, diwylliant a threftadaeth ac i annog pobl o bob oedran i gymryd diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg.
“Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Llenyddiaeth Cymru, er mwyn cyflawni hyn. Ni effeithir ei gyllid craidd, sy’n cael ei dosbarthu trwy Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi llenyddiaeth Cymru yn fwy cyffredinol.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru faint sydd wedi ei wario ar y dathliadau, ac yn aros am ateb.
Nid yw’n bosib dweud faint o arian ychwanegol gafodd Llenyddiaeth Cymru oherwydd iddo “[d]derbyn arian o nifer o gyllidau gwahanol yn dibynnu ar bwrpas y prosiect (ee. rhai prosiectau addysg, rhai digwyddiadau mawr) a gan fod nifer o rhain ar cyd â sefydliadau eraill” yn ôl llefarydd y Llywodraeth.