Tlws Uwch Gynghrair Cymru
Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi dechrau ar ymgyrch newydd yn y gobaith o atal yr arfer o drefnu canlyniadau gêmau.

Yn ôl tystiolaeth a gafodd ei chyhoeddi heddiw, hon yw’r broblem fwyaf sy’n wynebu’r byd pêl-droed yng Nghymru ar hyn o bryd.

Hynny, er bod ymchwiliad i amheuon am ddwy gêm yn Uwch Gynghrair Cymru y llynedd wedi penderfynu nad oedd dim o’i le.

Ond fe gafodd asesiad risg o’r byd pêl-droed ei gynnal ar ddechrau tymor 2013-14, a daeth arbenigwyr i’r casgliad fod yna drafferthion sylweddol yng Nghymru.

Betio mawr

Ar gyfartaledd, mae £575,000 yn cael ei wario ar fetio ar gêmau Uwch Gynghrair Cymru bob wythnos, a £75 miliwn bob blwyddyn.

Cynghreiriau lle mae llawer o fetio ond tâl i chwaraewyr yn isel yw’r rhai sy’n cael eu hystyried mewn mwya’ o beryg o dwyll.

Fel rheol, fe fydd canlyniad gêm neu ddigwyddiadau ynddi yn cael eu trefnu er mwyn i bobol fetio ar hynny.

Y daith

Fe fydd y daith yn cyrraedd pob un o12 tîm yr Uwch Gynghrair yn ystod y tymor hwn, lle bydd gweithdai yn cael eu cynnig i dîmau oedolion a ieuenctid, yn ogystal â’r swyddogion a’r dyfarnwyr.

Fe fydd tîmau yn y cynghreiriau is yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai y tymor nesaf.

Ar ddiwedd y gweithdai, fe fydd e-brofion yn cael eu cynnal er mwyn ategu gwersi’r gweithdai.

‘Blaengar’

“Yn ystod tymor 2013-14, cynhaliodd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru asesiad risg llawn o’r byd pêl-droed yng Nghymru gyda chymorth dau arbenigwr ar onestrwydd sy’n uchel eu parch,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Jonathan Ford.

“O ganlyniad, mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi bod yn flaengar wrth gyflwyno Rheolau Betio, Gonestrwydd a Threfnu Canlyniadau a ddaeth i rym ar Awst 1i helpu i warchod pêl-droed yng Nghymru.”

Nododd fod y Gymdeithas wedi derbyn cymorth gan Sportradar, arbenigwyr ar beryglon betio ym myd chwaraeon, i drefnu’r daith.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru, Gwyn Derfel eu bod wedi “ymrwymo i sicrhau bod ein cynghrair yn onest, yn gystadleuol ac yn gyffrous”.