Justin Tipuric (o wefan yr Undeb Rygbi)
Fe fydd Justin Tipuric yn chwarae dros y Gweilch nos yfory wrth iddyn nhw herio Connacht yn Stadiwm Liberty, gyda Lloyd Peers yn gapten yn absenoldeb Alun Wyn Jones.

Tipuric yw’r unig chwaraewr sydd wedi’i enwi yng ngharfan Cymru fydd yn chwarae dros y Gweilch nos Wener – dyw Alun Wyn Jones, Dan Baker, Scott Baldwin, Dan Biggar, James King, Nicky Smith a Rhys Webb ddim ar gael.

Bydd y Gweilch yn gobeithio parhau â’u record 100% yng nghynghrair y Pro12 hyd yn hyn wrth iddyn nhw groesawu’r tîm o Iwerddon sydd yn bumed.

Absenoldebau

Martin Roberts a Sam Davies fydd yn dechrau fel mewnwr a maswr yn sgil absenoldeb Biggar a Webb, tra bod Tom Grabham yn cael cyfle ar yr asgell.

Peers a Tipuric yw’r unig flaenwyr fydd yn dechrau a oedd yn y pymtheg a gollodd i Northampton yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yr wythnos diwethaf, wrth i’r pac weld chwe newid.

Ond fe fydd cyfle cynta’ hefyd i Ieuan Jones, sydd newydd ymuno ar fenthyg o’r Gleision am fis, wrth i ranbarth Abertawe geisio delio ag absenoldebau yn y rheng ôl.

Duncan Jones, Sam Parry ac Aaron Jarvis fydd yn y rheng flaen, gyda’r gŵr o Dde Affrica Rynier Bernardo’n ymuno â Peers yn yr ail reng, a Sam Lewis ac Ieuan Jones yn dod mewn i’r rheng ôl.

Yn ogystal â’r rheiny sydd i ffwrdd gyda charfan Cymru, mae gan y Gweilch ddeuddeg o chwaraewyr allan ag anafiadau gan gynnwys Tyler Ardron, Ryan Bevington, Jonathan Spratt, De Kock Steenkamp ac Eli Walker.

‘Amser anodd’

“Mae’r amser hyn o’r flwyddyn wastad yn anodd, gyda’r gemau rhyngwladol ac anafiadau’n profi dyfnder y garfan i’r eithaf, ac mae e ‘run peth eleni,” cyfaddefodd prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy.

“Ond mae’n gyfnod cyffrous pan ry’n ni’n cael cyfle i weld rhai o’r talent ifanc yn dod drwyddo, a’u gweld nhw’n camu lan yn yr ymarfer ac ar ddiwrnod y gêm ochr yn ochr â rhai o’r Gweilch hŷn.”

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Jeff Hassler, Andrew Bishop, Josh Matavesi, Tom Grabham, Sam Davies, Martin Roberts; Duncan Jones, Sam Parry, Aaron Jarvis, Lloyd Peers (capt), Rynier Bernardo, Sam Lewis, Justin Tipuric, Ieuan Jones

Eilyddion: Scott Otten, Marc Thomas, Dmitri Arhip, Rory Thornton, Jordan Collier, Tom Habberfield, Ashley Beck, Aisea Natoga