Dan Lydiate
Mae Racing Metro wedi cyhoeddi heddiw eu bod wedi cytuno i ryddhau Dan Lydiate o’i gytundeb gyda’r clwb, gan olygu bod y blaenasgellwr yn rhydd i ddychwelyd i Gymru.

Yn ôl Racing fe fyddan nhw’n diddymu cytundeb Lydiate unwaith y bydd gemau rhyngwladol yr hydref ar ben, a gadael iddo ymuno ag un o ranbarthau Cymru.

Mae’r Cymro wedi cael cyfnod siomedig ar y cae ers symud i Baris yn 2013, gan fethu ag ennill lle rheolaidd yn rheng ôl y tîm.

Dod i gytundeb

Dywedodd Racing Metro ar eu gwefan mai Lydiate ei hun oedd wedi gofyn am adael, a’u bod nhw wedi cytuno i hynny.

“Rydym yn dymuno pob lwc am weddill y tymor i Dan gyda’i glwb newydd, a phob lwc iddo yn ei yrfa ryngwladol gyda gemau’r hydref, y Chwe Gwlad a Chwpan Rygbi’r Byd 2015,” meddai cadeirydd Racing Metro, Jacky Lorenzetti.

Bydd Lydiate nawr yn rhydd i arwyddo i un o ranbarthau Cymru o fis Rhagfyr ymlaen, gyda thebygolrwydd y bydd Undeb Rygbi Cymru’n cynnig cytundeb canolog iddo tebyg i’r un a arwyddodd Sam Warburton.

Mae hynny’n gadael y Cymry Mike Phillips, Jamie Roberts a Luke Charteris ar ôl yn Racing Metro – yn ddiweddar maen nhw wedi wfftio awgrymiadau eu bod hwythau’n gobeithio dychwelyd i Gymru’n fuan.

Mae dau o sêr eraill Cymru newydd arwyddo i glybiau o Ffrainc, gyda Leigh Halfpenny’n arwyddo i Toulon a Jonathan Davies nawr yn chwarae i Clermont.