Garry Monk
Fydd rheolwr Abertawe ddim yn cael ei ddisgyblu am alw un o chwaraewyr Stoke yn “dwyllwr”.
Fe gadarnhaodd y clwb eu bod wedi clywed gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr na fydd unrhyw weithredu pellach yn erbyn Garry Monk.
Ond mewn datganiad dau baragraff maen nhw’n dweud ei fod wedi cael rhybudd am ei gyfrifoldebau wrth wneud sylwadau cyhoeddus.
‘Deifio’
Roedd Garry Monk wedi ymosod yn chwyrn ar flaenwr Stoke Victor Moses gan ei gyhuddo o ddeifio wrth ennill cic o’r smotyn yn erbyn yr Elyrch, a hynnyn arwain at fuddugoliaeth i Stoke.
Roedd hefyd wedi dweud bod penderfyniad y dyfarnwr i roi’r gic yn “ffiaidd”.
Yn ddiweddarach, fe gafodd gefnogaeth i’w alwad am gosbi chwaraewyr oedd yn twyllo, a hynny’n cynnwys digwyddiadau nad oedd wedi’u gweld yn ystod y gêm ei hun.