Kit Symons (llun: CPD Fulham)
Mae Fulham wedi cadarnhau eu bod bellach wedi penodi Kit Symons fel rheolwr parhaol, ar ôl iddo wneud cyn argraff wrth gymryd yr awenau dros dro.
Mae’r Cymro 43 oed wedi bod wrth y llyw ers mis Medi ar ôl i’r clwb roi’r sac i Felix Magath, ac roedd y clwb ar waelod y Bencampwriaeth bryd hynny.
Ers iddo fod wrth y llyw mae’r tîm wedi ennill pump a chael un gêm gyfartal mewn naw gêm, a chodi i 20fed yn y tabl.
Dywedodd cadeirydd Fulham, Shahid Khan, fod gan Symons “angerdd” dros y clwb ble bu hefyd yn chwaraewr rhwng 1998 a 2001, a bod y clwb wedi’i drawsnewid yn ei gyfnod byr fel rheolwr dros dro.
Mae’n golygu, fodd bynnag, y bydd Symons yn debygol o gamu lawr o’i rôl fel hyfforddwr gyda thîm cenedlaethol Cymru.
Ar ôl ennill 36 cap dros ei wlad fel amddiffynwr, cafodd Symons ei benodi’n rhan o staff Chris Coleman yn 2012.