Mynedfa Maes Tanio Castellmartin (Stephen Charles CCA 2.0)
Fe fydd gweithwyr ar feysydd tanio’r fyddin yng Nghymru sy’n aelodau o undeb Unite yn streicio tros swyddi a chyflogau’r wythnos nesa’.
Mae disgwyl i 325 o weithwyr streicio am 24 awr ar wahanol ddiwrnodau, gan ddweud bod toriadau ar y meysydd yn peryglu bywydau.
Ymhlith y meysydd tanio lle mae’r gweithwyr yn streicio mae Caerwent yn y de-ddwyrain, Pontsenni ym Mannau Brycheiniog a Chastellmartin yn Sir Benfro.
‘Rhywun yn marw’
Mae’r undeb yn rhybuddio y gallai torri swyddi olygu bod diogelwch staff yn y fantol.
Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: “Os na fydd wardeiniaid proffesiynol ar y meysydd tanio yn ystod hyfforddiant tanio byw, ein barn ni yw na fydd hi’n hir cyn i rywun farw.
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fe fu nifer o ddigwyddiadau difrifol ar y meysydd tanio a allai fod wedi arwain at farwolaeth pe na bai’r wardeiniaid proffesiynol wedi bod yno.”