Garry Monk
Mae gwraig rheolwr Abertawe Garry Monk wedi troi at wefan Twitter i fynegi ei dicter ynghylch llythyr a gafodd ei anfon at ei gŵr gan gymydog.

Yn y llythyr, roedd y cymydog yn cwyno am berfformiadau diweddar yr Elyrch.

Wrth ymateb yn gyhoeddus i’r llythyr, awgrymodd Lexy Blackwell y dylai’r cymydog fynd at yr Elyrch, nid i’w cartref teuluol, i leisio’i farn.

Yn y neges gyntaf, dywedodd Blackwell ei bod hi’n “gandryll” fod cymydog wedi mynd i’w cartref i roi’r llythyr i’w gŵr “yn cwyno am y ffordd mae Garry yn ymdrin â phethau/popeth mae’n ei wneud o’i le”.

Yn yr ail neges, awgrymodd Lexy Blackwell y dylai’r sawl a anfonodd y llythyr fynd at y clwb.

Dywedodd: “Peidiwch dod i gartref fy mhlant. Gwell fyth, gan eich bod yn meddwl eich bod yn gwybod yn well na fe, pam na wnewch chi ddod yn rheolwr”.

Collodd Abertawe o 2-1 yn erbyn Lerpwl yn Anfield yng Nghwpan Capital One neithiwr, ond maen nhw’n gydradd pumed yn yr Uwch Gynghrair.

Mae Garry Monk wedi mynegi ei ddicter yn ddiweddar ynghylch perfformiad nifer o ddyfarnwyr sydd wedi gwneud penderfyniadau dadleuol yng ngemau Abertawe.

Bydd Monk yn cwrdd â Chymdeithas y Dyfarnwyr i drafod ei bryderon ddydd Gwener, ac mae’n sicr y bydd cerdyn coch Federico Fernandez neithiwr ymhlith y pwyntiau i’w trafod.