Y Cynghorydd Michael Sol Williams gyda'r arwydd newydd
Mae datblygwyr tai wedi tynnu arwyddion uniaith Saesneg oddi ar safle ger hen filfeddygfa ym Mhwllheli yn dilyn cwynion.
Gosodwyd yr arwyddion ar y safle lle mae McCarthy and Stone yn adeiladu fflatiau ymddeol.
Cafodd ymgyrch ei sefydlu gan Gangen Plaid Cymru Pwllheli a chafodd yr arwyddion eu newid, a’r Gymraeg yn cael lle mwy blaenllaw na’r Saesneg ar yr arwyddion newydd.
Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru, Michael Sol Owen, un o’r ymgyrchwyr blaenllaw:
“Buan iawn y daethon nhw at eu coed.
“Digon o waith eu bod wedi sylweddoli pa mor bwysig yw siarad â phobol yn eu hiaith eu hunain.
“Erbyn hyn, maen nhw’n gallu cysylltu â phob rhan o’r gymuned.”
Ychwanegodd Wil Roberts, un o’r ymgyrchwyr trwy wefannau cymdeithasol fod “hyn yn dangos i’r cwmnïau mwyaf mai trech gwlad nac arglwydd.
“Mae’n rhaid i ni drechu pan fydd y pethau yma’n digwydd.”