Mae Cyngor Cyswllt Cymru heddiw wedi cyhoeddi rhybudd ar yr effaith mae tan-cyllido yn ei gael ar gynghorau sir yng Nghymru.
Daw cynghorwyr lleol, cynrychiolwyr undebau UNSAIN, GMB ac Unite yn ogystal ag uwch swyddogion llywodraeth leol dan ambarél Cyngor Cyswllt Cymru.
Mewn datganiad a gytunwyd yn unfrydol gan y cyngor, mae’n nhw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu lefel realistig o arian i lywodraeth leol er mwyn atal niwed hirdymor i economi Cymru a chymunedau lleol.
Cytunodd y Cyngor Cyswllt hefyd i geisio cefnogaeth y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i lobïo ar y cyd er mwyn cael setliad ariannol gwell gan Lywodraeth Cymru.
Mewn twll
Daw’r alwad yn dilyn toriadau olynol a pharhaus i gyllideb llywodraeth leol yng Nghymru, gyda’r cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd yn rhaid i gynghorau wynebu £220 miliwn o ddiffyg pellach yn eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
“Er bod y Cyngor yn llawn yn gwerthfawrogi cyflwr enbyd cyllid cyhoeddus gyda £1.7 biliwn o doriad i gyllideb Llywodraeth Cymru, mae cyllid y cynghorau nawr ar fin torri,” meddai’r Cynghorydd Peter Rees, cadeirydd ochr y cyflogwr ar Gyngor Cyswllt Cymru a dirprwy arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:
“Mae perygl gwirioneddol y bydd toriadau pellach yn arwain at ddatgymalu systematig o wasanaethau cyhoeddus lleol a bydd hynny’n peryglu dyheadau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae angen i ni gydnabod gwerth ein gweithlu a gwasanaethau llywodraeth leol ar frys, ac mae gwir angen adolygiad o sut y maent yn cael eu hariannu yn y dyfodol.”