Plentyn yn gofyn am dric neu daffi (Don Scarborough CCbySA 2.5)
Mae AS Ceidwadol wedi galw ar y blant i ffeindio ffordd heblaw gofyn am ‘dric neu daffi’ neu ‘gast neu geiniog’ i ddathlu Calan Gaeaf.

Yn ôl Glyn Davies, mae’r arferiad yn gallu creu straen fawr a phryder i bobol oedrannus a bregus, gan wneud i bobol deimlo’u bod yn gaeth yn eu cartrefi eu hunain.

Mae aelod Sir Drefaldwyn yn awgrymu bod pobol ifanc yn trefnu eu partïon gwisg ffansi eu hunain neu’n cwrdd â ffrindiau yn hytrach na’r ‘trick or treat’ Americanaidd.

‘Brawychus’

“Dw i’n siŵr nad yw’r rhai sy’n gwisgo i fyny ac yn mynd allan i holi am gast neu geiniog yn faleisus, ond gall fod yn frawychus i berson oedrannus neu fregus i agor eu drysau i rywun dieithr yn y tywyllwch,” meddai Glyn Davies.

“Os byddwch yn gweld sticer neu boster yn gofyn i chi beidio i guro, parchwch ddymuniadau’r unigolyn os gwelwch yn dda.”

Yn ogystal, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys wedi dosbarthu sticeri a phosteri i godi ymwybyddiaeth o bryderon pobol sy’n agored i niwed tros gyfnod Calan Gaeaf.